Mae’r data sgoriau hylendid bwyd a gyhoeddir ar y dudalen ratings.food.gov.uk ar gael trwy ryngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API) mewn fformatau XML a JSON. Gwasanaeth rhad ac am ddim yw hwn ac nid oes angen cofrestru i’w ddefnyddio. Cymhwysir telerau ac amodau (gweler y ddolen isod), ac mae canllawiau ar gael ar gyfer datblygwyr.

Canllawiau API i ddatblygwyr

Mae’r API yn caniatáu i ddatblygwyr gael mynediad at y data sgoriau hylendid bwyd sylfaenol a gyhoeddir ar y dudalen ratings.food.gov.uk. Gall datblygwyr weithredu ymholiad mewn perthynas â ffeiliau XML i ddychwelyd y data geo-godedig (darperir data hydred a lledred ar gyfer busnesau bwyd).

Gellir defnyddio’r API hefyd i weithredu ymholiad mewn perthynas â’r system fyw (caiff y data ei ddiweddaru’n awtomatig wrth i awdurdodau lleol lwytho a chyhoeddi data) a dychwelyd data mewn fformatau XML a JSON.

Mae’r canllawiau ar sut i ddefnyddio’r API fersiwn 1 i’w cael isod:

Mae'r ASB hefyd yn cynnig API fersiwn 2. I gael rhagor o fanylion, gweler:

Telerau ac amodau

Darllenwch delerau ac amodau defnyddio’r data.